Add parallel Print Page Options

Deuthum i’m gardd, fy chwaer, a’m dyweddi: cesglais fy myrr gyda’m perarogl, bwyteais fy nil gyda’m mêl, yfais fy ngwin gyda’m llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.

Myfi sydd yn cysgu, a’m calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a’m gwallt â defnynnau y nos. Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt? Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a’m hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn. Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr, a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo. Agorais i’m hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni’m hatebodd. Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant, a’m trawsant, a’m harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf. Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.

Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o’r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly? 10 Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil. 11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân. 12 Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys. 13 Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol. 14 Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir. 15 Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol â chedrwydd. 16 Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.