Add parallel Print Page Options

Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o’r bobl, bendithiwch yr Arglwydd. Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r Arglwydd; canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel. O Arglwydd, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant, a’r cymylau a ddefnynasant ddwfr. Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd, sef y Sinai hwnnw, o flaen Arglwydd Dduw Israel. Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion. Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel. Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel? Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl. Bendithiwch yr Arglwydd. 10 Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch. 11 Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i’r pyrth. 12 Deffro, deffro, Debora; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam. 13 Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn. 14 O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon. 15 A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn. Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon. 16 Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon. 17 Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau. 18 Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes. 19 A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian. 20 O’r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera. 21 Afon Cison a’u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid. 22 Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef. 23 Melltigwch Meros, eb angel yr Arglwydd, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i’r Arglwydd, yn gynhorthwy i’r Arglwydd yn erbyn y cedyrn. 24 Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell. 25 Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn. 26 Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a’i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef. 27 Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw. 28 Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy’r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau? 29 Ei harglwyddesau doethion a’i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun, 30 Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gŵr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symudliw o wniadwaith o’r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr? 31 Felly y darfyddo am dy holl elynion, O Arglwydd: a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.