Add parallel Print Page Options

27 A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i’r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a’i enw Jwlius, o fyddin Augustus. Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o’r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica. A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd. Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, ni a ddaethom i Myra, dinas yn Lycia. Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i’r Ital, a’n gosododd ni ynddi. Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai’r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone. Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo. Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd, 10 Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a’r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd. 11 Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul. 12 A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau‐orllewin, a’r gogledd‐orllewin. 13 A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta. 14 Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon. 15 A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda’r gwynt. 16 Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad: 17 Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu’r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly. 18 A ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong; 19 A’r trydydd dydd bwriasom â’n dwylo’n hunain daclau’r llong allan. 20 A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan. 21 Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymado o Creta, ac ennill y sarhad yma a’r golled. 22 Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus: canys ni bydd colled am einioes un ohonoch, ond am y llong yn unig. 23 Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli, 24 Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi. 25 Am hynny, ha wŷr, cymerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedwyd i mi. 26 Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys. 27 Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddeg, fe a ddigwyddodd, a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nos, dybied o’r morwyr eu bod yn nesáu i ryw wlad; 28 Ac wedi iddynt blymio, hwy a’i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a’i cawsant yn bymtheg gwryd. 29 Ac a hwy’n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o’r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd. 30 Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i’r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o’r pen blaen i’r llong, 31 Dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig. 32 Yna y torrodd y milwyr raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith. 33 A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim. 34 Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i’r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben. 35 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a’i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta. 36 Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd. 37 Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau. 38 Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw’r gwenith allan i’r môr. 39 A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i’r hon y cyngorasant, os gallent, wthio’r llong iddi. 40 Ac wedi iddynt godi’r angorau, hwy a ymollyngasant i’r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i’r gwynt, ac a geisiasant y lan. 41 Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a’r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau. 42 A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith. 43 Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a’r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i’r môr, a myned allan i’r tir: 44 Ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.