Add parallel Print Page Options

10 Ac ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd â mi. A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon. A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd, Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyn chwilio’r ddinas, a’i throedio, a’i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti? Yna Hanun a gymerth weision Dafydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a’u gollyngodd hwynt ymaith. Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi; ac yna dychwelwch.

A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob, a’r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn. A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a’r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o’r neilltu yn y maes. Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid. 10 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i’w byddino yn erbyn meibion Ammon. 11 Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau. 12 Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef. 13 A nesaodd Joab, a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel: a hwy a ffoesant o’i flaen ef. 14 A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i’r ddinas. A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem.

15 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd. 16 A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen. 17 A phan fynegwyd i Dafydd hynny, efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a’r Syriaid a ymfyddinasant yn erbyn Dafydd, ac a ymladdasant ag ef. 18 A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno. 19 A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a’u gwasanaethasant hwynt. A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meibion Ammon mwyach.