Add parallel Print Page Options

Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef: Os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y’n ceir. Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd. A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd. Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd: Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg. Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff, a chartrefu gyda’r Arglwydd. Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymeradwy ganddo ef. 10 Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. 11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd. 12 Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o’n plegid ni, fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon. 13 Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym. 14 Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb: 15 Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. 16 Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach. 17 Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd. 18 A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod; 19 Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod. 20 Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw. 21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.