Add parallel Print Page Options

29 Yna y Philistiaid a gynullasant eu holl fyddinoedd i Affec: a’r Israeliaid oedd yn gwersyllu wrth ffynnon sydd yn Jesreel. A thywysogion y Philistiaid oedd yn tramwy yn gannoedd, ac yn filoedd: ond Dafydd a’i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gydag Achis. Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Beth a wna yr Hebreaid hyn yma? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid, Onid dyma Dafydd, gwas Saul brenin Israel, yr hwn a fu gyda mi y dyddiau hyn, neu y blynyddoedd hyn, ac ni chefais ddim bai ynddo ef, er y dydd y syrthiodd efe ataf hyd y dydd hwn? A thywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho; a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho, Gwna i’r gŵr hwn ddychwelyd i’w le a osodaist iddo, ac na ddeled i waered gyda ni i’r rhyfel; rhag ei fod yn wrthwynebwr i ni yn y rhyfel: canys â pha beth y rhyngai hwn fodd i’w feistr? onid â phennau y gwŷr hyn? Onid hwn yw Dafydd, am yr hwn y canasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?

Yna Achis a alwodd Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel mai byw yr Arglwydd, diau dy fod di yn uniawn, ac yn dda yn fy ngolwg i, pan elit allan a phan ddelit i mewn gyda mi yn y gwersyll: canys ni chefais ynot ddrygioni, o’r dydd y daethost ataf fi hyd y dydd hwn: eithr nid wyt ti wrth fodd y tywysogion. Dychwel yn awr, gan hynny, a dos mewn heddwch, ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid.

A dywedodd Dafydd wrth Achis, Ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist ti yn dy was, o’r dydd y deuthum o’th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin? Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd, Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i, megis angel Duw: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Ni ddaw efe i fyny gyda ni i’r rhyfel. 10 Am hynny yn awr cyfod yn fore, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi: a phan gyfodoch yn fore, a phan oleuo i chwi ewch ymaith. 11 Felly Dafydd a gyfododd, efe a’i wŷr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A’r Philistiaid a aethant i fyny i Jesreel.