Add parallel Print Page Options

25 A bu farw Samuel; a holl Israel a ymgynullasant, ac a alarasant amdano ef, ac a’i claddasant ef yn ei dŷ yn Rama. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth i waered i anialwch Paran. Ac yr oedd gŵr ym Maon, a’i gyfoeth yn Carmel; a’r gŵr oedd fawr iawn, ac iddo ef yr oedd tair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel. Ac enw y gŵr oedd Nabal; ac enw ei wraig Abigail: a’r wraig oedd yn dda ei deall, ac yn deg ei gwedd: a’r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad oedd efe.

A chlybu Dafydd yn yr anialwch, fod Nabal yn cneifio ei ddefaid. A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau, Cerddwch i fyny i Carmel, ac ewch at Nabal, a chyferchwch well iddo yn fy enw i. Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant, Caffech di heddwch, a’th dŷ heddwch, a’r hyn oll sydd eiddot ti heddwch. Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni, ni wnaethom sarhad arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisiau iddynt, yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel. Gofyn i’th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i’th law, i’th weision, ac i’th fab Dafydd. Ac wedi dyfod llanciau Dafydd, hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd, ac a dawsant.

10 A Nabal a atebodd weision Dafydd, ac a ddywedodd, Pwy yw Dafydd? a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddiw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr. 11 A gymeraf fi fy mara a’m dwfr, a’m cig a leddais i’m cneifwyr, a’u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent? 12 Felly llanciau Dafydd a droesant i’w ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny. 13 A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn.

14 Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, Wele, Dafydd a anfonodd genhadau o’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni; ond efe a’u difenwodd hwynt. 15 A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes. 16 Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid. 17 Yn awr gan hynny gwybydd, ac ystyria beth a wnelych: canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dŷ ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddiddan ag ef.

18 Yna Abigail a frysiodd, ac a gymerth ddau cant o fara, a dwy gostrelaid o win, a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod, a phum hobaid o gras ŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a’u gosododd ar asynnod. 19 A hi a ddywedodd wrth ei gweision, Cerddwch o’m blaen i; wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi. 20 Ac a hi yn marchogaeth ar asyn, ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd; yna, wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn; a hi a gyfarfu â hwynt. 21 A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda. 22 Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac ychwaneg, os gadawaf o’r hyn oll sydd ganddo ef, erbyn goleuni y bore, un gwryw. 23 A phan welodd Abigail Dafydd, hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn, ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd hyd lawr, 24 Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, Arnaf fi, fy arglwydd, arnaf fi bydded yr anwiredd; a llefared dy wasanaethferch, atolwg, wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn. 25 Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nabal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist. 26 Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r Arglwydd dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal. 27 Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd, rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd. 28 A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau. 29 Er cyfodi o ddyn i’th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r Arglwydd dy Dduw; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl. 30 A phan wnelo yr Arglwydd i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y’th osodo di yn flaenor ar Israel; 31 Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, neu ddial o’m harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.

32 A dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i: 33 Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendigedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’m llaw fy hun. 34 Canys yn wir, fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw, yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un gwryw. 35 Yna y cymerodd Dafydd o’i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef; ac a ddywedodd wrthi hi, Dos i fyny mewn heddwch i’th dŷ: gwêl, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb.

36 Ac Abigail a ddaeth at Nabal; ac wele, yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwledd brenin: a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef; canys meddw iawn oedd efe: am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo y bore. 37 A’r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny; a’i galon ef a fu farw o’i fewn, ac efe a aeth fel carreg. 38 Ac ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal, fel y bu efe farw.

39 A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo. 40 A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a’n hanfonodd ni atat ti, i’th gymryd di yn wraig iddo. 41 A hi a gyfododd, ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd. 42 Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o’i llancesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef. 43 A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef.

44 A Saul a roddasai Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalti mab Lais, o Alim.