Add parallel Print Page Options

A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr Arglwydd: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di. Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni. Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd, a’i amcanion ef a gyflawnir. Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth. Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion. Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny. Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu. Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt. Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr. 10 Y rhai a ymrysonant â’r Arglwydd, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog. 11 Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ; a’r bachgen a fu weinidog i’r Arglwydd gerbron Eli yr offeiriad.

12 A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr Arglwydd. 13 A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, â chigwain dridant yn ei law; 14 Ac a’i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno. 15 Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd. 16 Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a’i cymeraf trwy gryfder. 17 Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr Arglwydd: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr Arglwydd.

18 A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain. 19 A’i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.

20 Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr Arglwydd i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr Arglwydd. A hwy a aethant i’w mangre eu hun. 21 A’r Arglwydd a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr Arglwydd.

22 Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi. 24 Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr Arglwydd droseddu. 25 Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a’i barnant ef: ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr Arglwydd eu lladd hwynt. 26 A’r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan Dduw, a dynion hefyd.

27 A daeth gŵr i Dduw at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo? 28 Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel? 29 Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel? 30 Am hynny medd Arglwydd Dduw Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr Arglwydd, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir. 31 Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad, fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di. 32 A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth. 33 A’r gŵr o’r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr. 34 A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau. 35 A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd. 36 A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.