Add parallel Print Page Options

13 Saul a deyrnasodd un flwyddyn; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel, Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun. A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon oedd yn Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy’r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid. A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid: a’r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal.

A’r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraill cyn amled â’r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Beth-afen. Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogofeydd, ac mewn drysni, ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, ac mewn pydewau. A rhai o’r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen, i dir Gad a Gilead: a Saul oedd eto yn Gilgal, a’r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu.

Ac efe a arhosodd saith niwrnod, hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel. Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal; a’r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef. A Saul a ddywedodd, Dygwch ataf fi boethoffrwm, ac offrymau hedd. Ac efe a offrymodd y poethoffrwm. 10 Ac wedi darfod iddo offrymu’r poethoffrwm, wele, Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac i gyfarch gwell iddo.

11 A dywedodd Samuel, Beth a wnaethost ti? A Saul a ddywedodd, Oherwydd gweled ohonof i’r bobl ymwasgaru oddi wrthyf, ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig, ac i’r Philistiaid ymgasglu i Michmas; 12 Am hynny y dywedais, Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal, ac ni weddïais gerbron yr Arglwydd: am hynny yr anturiais i, ac yr offrymais boethoffrwm. 13 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr Arglwydd yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd. 14 Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr Arglwydd a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr Arglwydd i ti. 15 A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef, ynghylch chwe chant o wŷr. 16 A Saul a Jonathan ei fab, a’r bobl a gafwyd gyda hwynt, oedd yn aros yn Gibea Benjamin: a’r Philistiaid a wersyllasant ym Michmas.

17 A daeth allan o wersyll y Philistiaid anrheithwyr, yn dair byddin: un fyddin a drodd tua ffordd Offra, tua gwlad Sual; 18 A’r fyddin arall a drodd tua ffordd Beth-horon: a’r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sydd yn edrych tua dyffryn Seboim, tua’r anialwch.

19 Ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel: canys dywedasai y Philistiaid, Rhag gwneuthur o’r Hebreaid gleddyfau neu waywffyn. 20 Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid, i flaenllymu bob un ei swch, a’i gwlltwr, a’i fwyell, a’i gaib. 21 Ond yr oedd llifddur i wneuthur min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac ar y picffyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu’r symbylau. 22 Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o’r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab. 23 A sefyllfa’r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.