Add parallel Print Page Options

Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod; Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd. Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad: Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd: Y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu’r byw a’r meirw. Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i’r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd. Eithr diwedd pob peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau. Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau. Byddwch letygar y naill i’r llall, heb rwgnach. 10 Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw. 11 Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12 Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: 13 Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. 14 Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir. 15 Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill: 16 Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran. 17 Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw? 18 Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? 19 Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.