Add parallel Print Page Options

A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist. Mi a roddais i chwi laeth i’w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn. Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol? Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol? Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un? Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd. Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd. Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. Canys cyd‐weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi. 10 Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu. 11 Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist. 12 Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl; 13 Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a’i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a’r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw. 14 Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr. 15 Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân. 16 Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch? 17 Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi. 18 Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth. 19 Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra. 20 A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt. 21 Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi: 22 Pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Ceffas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; y mae pob peth yn eiddoch chwi; 23 A chwithau yn eiddo Crist; a Crist yn eiddo Duw.