Add parallel Print Page Options

A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio. A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr. A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth: Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw. A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu. Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni: Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant. Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef. 10 Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd. 11 Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw. 12 A nyni a dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond yr Ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw. 13 Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol. 14 Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. 15 Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb. 16 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.