Add parallel Print Page Options

20 A Benhadad brenin Syria a gasglodd ei holl lu, a deuddeg brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria, ac a ryfelodd i’w herbyn hi. Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i’r ddinas, Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a’th aur sydd eiddof fi; dy wragedd hefyd, a’th feibion glanaf, ydynt eiddof fi. A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Yn ôl dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a’r hyn oll sydd gennyf ydym eiddot ti. A’r cenhadau a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Fel hyn yr ymadroddodd Benhadad, gan ddywedyd, Er i mi anfon atat ti, gan ddywedyd, Dy arian a’th aur, a’th wragedd, a’th feibion, a roddi di i mi: Eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti, a hwy a chwiliant dy dŷ di, a thai dy weision: a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo, ac a’i dygant ymaith. Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur; ac nis gomeddais ef. Yr holl henuriaid hefyd, a’r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef, Na wrando, ac na chytuna ag ef. Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i’m harglwydd y brenin, Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a’i gwnaf: ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A’r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn. 10 A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r holl bobl sydd i’m canlyn i. 11 A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Dywedwch wrtho, Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosg. 12 A phan glywodd efe y peth hyn, (ac efe yn yfed, efe a’r brenhinoedd, yn y pebyll,) efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch. A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas.

13 Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a’i rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd. 14 Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy? Dywedodd yntau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin? Dywedodd yntau, Tydi. 15 Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain: ac ar eu hôl hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl, cwbl o feibion Israel, yn saith mil. 16 A hwy a aethant allan ganol dydd. A Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y pebyll, efe a’r brenhinoedd, y deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo ef. 17 A gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf: a Benhadad a anfonodd allan, a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd, Daeth gwŷr allan o Samaria. 18 Ac efe a ddywedodd, Os am heddwch y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw; ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw. 19 Felly yr aethant hwy allan o’r ddinas, sef gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, a’r llu yr hwn oedd ar eu hôl hwynt. 20 A hwy a laddasant bawb ei ŵr: a’r Syriaid a ffoesant, ac Israel a’u herlidiodd hwynt: a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch, gyda’r gwŷr meirch. 21 A brenin Israel a aeth allan, ac a drawodd y meirch a’r cerbydau, ac a laddodd y Syriaid â lladdfa fawr.

22 A’r proffwyd a nesaodd at frenin Israel, ac a ddywedodd wrtho, Dos, ymgryfha, gwybydd hefyd, ac edrych beth a wnelych; canys ymhen y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fyny i’th erbyn di. 23 A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef, Duwiau y mynyddoedd yw eu duwiau hwynt, am hynny trech fuant na ni: ond ymladdwn â hwynt yn y gwastadedd, a ni a’u gorthrechwn hwynt. 24 A gwna hyn; Tyn ymaith y brenhinoedd bob un o’i le, a gosod gapteiniaid yn eu lle hwynt. 25 Rhifa hefyd i ti lu, fel y llu a gollaist, meirch am feirch, a cherbyd am gerbyd: a ni a ymladdwn â hwynt yn y gwastatir, ac a’u gorthrechwn hwynt. Ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt, ac a wnaeth felly. 26 Ac ymhen y flwyddyn Benhadad a gyfrifodd y Syriaid, ac a aeth i fyny i Affec, i ryfela yn erbyn Israel. 27 A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oeddynt oll yn bresennol, ac a aethant i’w cyfarfod hwynt: a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy ddiadell fechan o eifr; a’r Syriaid oedd yn llenwi’r wlad.

28 A gŵr i Dduw a nesaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd dywedyd o’r Syriaid, Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd, ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe; am hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i’th law di, a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 29 A hwy a wersyllasant y naill ar gyfer y llall saith niwrnod. Ac ar y seithfed dydd y rhyfel a aeth ynghyd: a meibion Israel a laddasant o’r Syriaid gan mil o wŷr traed mewn un diwrnod. 30 A’r lleill a ffoesant i Affec, i’r ddinas; a’r mur a syrthiodd ar saith mil ar hugain o’r gwŷr a adawsid: a Benhadad a ffodd, ac a ddaeth i’r ddinas o ystafell i ystafell.

31 A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, clywsom am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn, atolwg, sachliain am ein llwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel; ond odid efe a geidw dy einioes di. 32 Yna y gwregysasant sachliain am eu llwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy was a ddywed, Atolwg, gad i mi fyw. Dywedodd yntau, A ydyw efe eto yn fyw? fy mrawd yw efe. 33 A’r gwŷr oedd yn disgwyl yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef, ac a’i cipiasant ar frys: ac a ddywedasant, Dy frawd Benhadad. Dywedodd yntau, Ewch, dygwch ef. Yna Benhadad a ddaeth allan ato ef; ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny i’r cerbyd. 34 A Benhadad a ddywedodd wrtho, Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy dad di, a roddaf drachefn; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria. A dywedodd Ahab, Mi a’th ollyngaf dan yr amod hwn. Felly efe a wnaeth gyfamod ag ef, ac a’i gollyngodd ef ymaith.

35 A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr Arglwydd, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a wrthododd ei daro ef. 36 Dywedodd yntau wrtho, Oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, wele, pan elych oddi wrthyf, llew a’th ladd di. Ac efe a aeth oddi wrtho ef, a llew a’i cyfarfu ef, ac a’i lladdodd. 37 Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddywedodd, Taro fi, atolwg. A’r gŵr a’i trawodd ef, gan ei daro a’i archolli. 38 Felly y proffwyd a aeth ymaith, ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd, ac a ymddieithrodd â lludw ar ei wyneb. 39 A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy was a aeth i ganol y rhyfel, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gan golli y cyll efe, yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian. 40 A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw, efe a ddihangodd. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Felly y bydd dy farn di; ti a’i rhoddaist ar lawr. 41 Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a brenin Israel a’i hadnabu ef, mai o’r proffwydi yr oedd efe. 42 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti ollwng ymaith o’th law y gŵr a nodais i’w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei einioes ef, a’th bobl di yn lle ei bobl ef. 43 A brenin Israel a aeth i’w dŷ ei hun yn drist ac yn ddicllon, ac a ddaeth i Samaria.